Menu Content Logo

English / Cymraeg

(Logo) The Athrofa Chwaraeon Cymru - Welsh Institute of Sport

Mae rôl yr Athrofa wedi bod yn graddol newid ers ei sefydlu, gyda mwy o bwyslais yn cael ei roi ar ddarparu gwasanaethau ar gyfer yr haen uchaf o berfformwyr chwaraeon ledled Cymru. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi newid yr athroniaeth reoli o welliannau ac ymroddiad parhaus i'n cwsmeriaid i gyd.

 

Mae'r Athrofa wedi bod yn cydweithredu gyda sefydliadau partner eraill gyda'r bwriad o gyflwyno'r gwasanaethau mwyaf safonol yn y dull mwyaf effeithlon ac effeithiol posibl. Amlygir hyn gan y ffaith bod swyddfeydd yn cael eu darparu yn yr Athrofa ar gyfer Hyfforddwyr y Cyrff Rheoli Cenedlaethol a Ffederasiwn y Cymdeithasau Chwaraeon ar gyfer yr Anabl. Mae'r cysylltiadau hyn wedi bod o gymorth i'r Athrofa sicrhau cyswllt agos gyda'i defnyddwyr, boed yn athletwr Olympaidd neu'n chwaraewr sboncen achlysurol, ac mae wedi arwain at ofal am y cwsmer na welir mo'i debyg mewn canolfannau chwaraeon eraill o'r maint yma.

Chwarewyr belrhwyd yn neidio am yr bel