|
Y Brif Neuadd
Mae’r neuadd wych hon yn lleoliad delfrydol ar gyfer digwyddiadau chwaraeon a masnachol mawr yn yr Athrofa. Mae ynddi gyfleusterau goleuo a chlyw-weledol cynhwysfawr yn ogystal â phlygiau trydan ar gyfer darlledu ar y teledu a phwyntiau rheoli ar gyfer sgorfwrdd electronig.
Cliciwch yma am fwy o gwybodaeth
Y Neuadd Gymnasteg
Yn y neuadd hon ceir amrywiaeth llawn o offer gymnasteg modern. Ceir pitiau glanio o sbwng cadarn i wneud dod oddi ar yr offer yn fwy diogel, llawr sbring llawn a rhedfeydd ar gyfer neidio a syrthio. Gellir gosod y neuadd ar gyfer cyfarpar i ferched a dynion.
Neuadd Jubilee
Ar yr ail lawr, mae’r neuadd aml-bwrpas hon gyda llawr pren sbring yn cael ei defnyddio gan nifer o chwaraeon, yn cynnwys badminton, p ê l rwyd a ph ê l fasged.
Yr Uwch-Neuadd
Gellir defnyddio’r neuadd hon ar gyfer tenis bwrdd, saethyddiaeth, chwaraeon ymladd a ffensio.
Cliciwch yma am fwy o gwybodaeth
Y Stiwdio
Defnyddir yr ystafell eang, bleserus hon ar gyfer dawns, ymarfer, bocsio, jiwdo a ffensio.
Y Pwll Nofio
Mae gan y pwll offer ar gyfer hyfforddiant a chystadlaethau nofio gyda rhaffau gwrthgynnwrf i’w gosod rhwng y lonydd a chyfleusterau gweld dan d ŵ r. Fe’i defnyddir ar gyfer polo d ŵ r, ar gyfer dysgu ac ar gyfer amrywiaeth cyflawn o ddyfarniadau nofio.
Cyrtiau Sboncen
Mae gan yr Athrofa ddau gwrt cystadlu cefn gwydr gydag oriel wylio yn rhoi lle i hyd at 200 o bobl. Hefyd, ceir dau gwrt sboncen cyffredin pellach.
Ystafelloedd Hyfforddi â Phwysau
Mae’r Athrofa’n cynnig dau fath o gyfleuster ymarfer, yr Ystafell Chwaraeon Pwer ar gyfer yr hyfforddwyr pwysau mwy profiadol a’r athletwyr lefel uchel ac ystafell Guardian ar gyfer yr hyfforddwyr pwysau llai profiadol.
|